Sail dros Ysgariad

Er mwyn profi bod priodas wedi chwalu yn anadferadwy mae’n rhaid i chi brofi un o’r seiliau canlynol. Ond peidiwch â gofidio’n ormodol, fe wnawn ni sôn am y rhain ar ôl i chi gyfarwyddo ein cyfreithwyr ysgariad arbenigol.

Godineb

Godineb yw cael cyfathrach rywiol â rhywun o’r rhyw arall. Ni allwch ysgaru eich priod ar sail eich godineb eich hunan. Gellir defnyddio godineb fel sail i ddeiseb ar gyfer ysgariad pa un a ydych chi a’ch priod yn byw gyda’ch gilydd ai peidio, ond os ydych chi’n parhau i fyw gyda’ch gilydd am dros 6 mis ar ôl i chi ddod i wybod am y godineb ni allwch ddibynnu ar y sail hon. Fe’ch cynghorir i beidio â chychwyn ysgariad ar y sail hon os nad yw’ch priod yn fodlon llofnodi ffurflen i gyfaddef y godineb.

Ymddygiad afresymol

Hon yw’r sail fwyaf cyffredin dros ysgariad o bell ffordd. Mae’n rhaid i chi ddangos bod eich priod wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n golygu na ellir yn rhesymol ddisgwyl i chi i fyw gydag ef / gyda hi. Ceir oddeutu 4 neu 5 o enghreifftiau o ymddygiad afresymol yn y ddeiseb fel arfer.
 
Enghreifftiau o ymddygiad afresymol:
 
• Diffyg cariad ac anwyldeb/diffyg diddordeb mewn perthynas gorfforol
• Esgeuluso
• Ystyried gyrfa yn bwysicach na’r berthynas
• Gweld bai/swnian
• Cenfigen ormodol
• Trais
• Camddefnyddio alcohol/ cyffuriau
• Gwrthod helpu gyda’r plant/o gwmpas y tŷ
• Trin arian yn anghyfrifol
• Perthnasoedd anaddas â dynion/menywod eraill
​Wrth ddefnyddio’r sail hon nid oes rhaid i’ch priod gyfaddef mewn gwirionedd yr ymddygiad a nodir yn y Ddeiseb, ond mae angen i chi fod yn gwybod na fydd eich priod yn gwrth-haeru’r sail a ddefnyddir.
 
Gadael
 
Mae’n rhaid bod eich priod wedi eich gadael ar bwrpas heb reswm da a heb eich caniatâd am gyfnod o 2 flynedd o leiaf cyn cyflwyno’r ddeiseb. Nid oes rhaid i chi gael eich priod i gytuno’n benodol ar sail gadael ond gwnewch yn siŵr na fydd ef/hi yn gwrth-haeru’r sail.
 
Byw ar wahân am 2 flynedd gyda chydsyniad
 
Mae’n rhaid i chi a’ch priod fod wedi byw ar wahân am o leiaf 2 flynedd yn union cyn cyflwyno’r Ddeiseb ac mae’n rhaid i’ch priod gydsynio i’r ysgariad fynd yn ei flaen gan ddefnyddio’r sail hon.
 
Byw ar wahân am 5 mlynedd
 
Mae’n rhaid i chi a’ch priod fod wedi byw ar wahân am 5 mlynedd yn union cyn cyflwyno’r Ddeiseb. Nod oes rhaid i’ch priod gydsynio i chi ddefnyddio’r sail hon.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile