- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Naomi Headley
Mae Naomi yn Gynorthwyydd Cyfreithiol Israddedig yn ein tîm Esgeuluster Meddygol. Daw ei rôl yn JCP yn ystod ei blwyddyn mewn diwydiant cyn iddi ddychwelyd i Brifysgol Abertawe i gwblhau ei thrydedd flwyddyn a'i blwyddyn olaf o radd yn y gyfraith.
Fel Cynorthwyydd Cyfreithiol Israddedig, mae Naomi yn mwynhau ymdrin yn uniongyrchol â phobl, ymholiadau a darpar gleientiaid, dysgu am waith dyddiol y cwmni o fewn y tîm gwasanaethau anafiadau, ac yn gyffredinol, bod yn rhan o dîm cyfeillgar JCP.
Dechreuodd Naomi fod â diddordeb mewn ymuno â JCP ar ôl iddi gwrdd â rhywun yn y brifysgol a oedd wedi ymgymryd â’r rôl o'r blaen ac wedi ei mwynhau'n fawr. Mae hi wedi edrych ymlaen at ymuno â chwmni cyfreithiol sefydledig sy'n gweithio ar amrywiaeth eang o wahanol feysydd cyfreithiol.
Cyn ymuno â JCP, bu Naomi yn gweithio ym maes lletygarwch am bron i 15 mlynedd, lle dysgodd lawer am werth gwasanaeth cwsmeriaid, cyn cael gyrfa mewn theatr hefyd, a ddysgodd lawer iddi am broffesiynoldeb a phwysigrwydd gwaith tîm. Yn ddiweddar, gwirfoddolodd mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth fel cynghorydd gwirio cychwynnol.
Yn ei hamser hamdden, mae Naomi wrth ei bodd yn mynd am dro gyda'i phartner a'u cŵn, fel arfer ar hyd y traeth, treulio penwythnosau yn eu camperfan, a mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw neu'r theatr.
Mae Naomi yn dysgu siarad Cymraeg.