Gwneud Ewyllys yn ystod ysgariad

Mae ein tîm yn arbenigwyr mewn paratoi Ewyllysiau a Chynllunio Trethi. Rydym yn deall y dylai Ewyllys fod yn ddogfen bersonol, wedi ei theilwra i’ch amgylchiadau chi. Dylid ystyried pob posibilrwydd a chanlyniad cyn paratoi eich Ewyllys. Efallai y cewch eich synnu gan beth yw eich gofynion cyfreithiol mewn gwirionedd.

Mae’r angen i roi trefn ar eich holl faterion ariannol yn hollbwysig pan eich bod yn mynd trwy ysgariad neu’n ymwahanu. Os oes gennych Ewyllys eisoes, efallai fod eich dymuniad yn yr Ewyllys honno wedi newid erbyn hyn - yn enwedig os oes gan eich cyn-ŵr/wraig neu bartner sifil yr hawl i’ch ystâd o dan eich Ewyllys bresennol. Os nad ydych wedi gwneud Ewyllys, bydd gan eich cyn-ŵr/wraig neu bartner sifil yr hawl i’ch ystâd tan y bydd yr ysgariad wedi’i gwblhau, a hynny pa un a ydych yn dymuno iddo/iddi etifeddu ai peidio.
 
Os ydych chi mewn perthynas hirdymor, a pha un a ydych chi’n bwriadu priodi ai peidio, ni fydd eich partner o reidrwydd yn etifeddu eich ystâd os nad oes Ewyllys ddilys mewn grym i ganiatáu hynny.
 
Rydym bob amser yn cynghori ein cleientiaid i wneud Ewyllys, er mwyn sicrhau eich bod yn cadw rheolaeth ar eich sefyllfa. Cysylltwch ag aelod o’n tîm heddiw.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile