Cyfreithwyr Ymwahanu

Mae ymwahanu ar ôl bod yn cyd-fyw, neu pan fo pâr priod wedi ymwahanu ond wedi penderfynu gohirio ysgaru’n swyddogol, yn gallu achosi cyfnod cymhleth ac emosiynol. Pa un a oes asedau neu rwymedigaethau sylweddol yn gysylltiedig ai peidio, gallwn ni weithredu ar eich rhan.

Gallwn gynnig ateb unigol a phwrpasol i helpu i ymdrin ag unrhyw sefyllfaoedd unigryw y gallech fod ynddynt, neu gallwn ddarparu gwasanaeth gwych er mwyn cyflawni datrysiad rhwydd. Mae gan ein harbenigwyr flynyddoedd lawer o brofiad yn y maes.
 
Cytundebau Ymwahanu
 
Gall cytundebau ymwahanu fod o gymorth i reoli beth sy’n digwydd o ran eiddo, asedau ac incwm drwy gofnodi’n ysgrifenedig unrhyw gytundeb yr ydych chi wedi cydsynio arno. Bydd y cytundeb yn egluro sefyllfa ariannol y ddau ohonoch ac yn cofnodi beth yr hoffai’r ddau ohonoch ei weld yn digwydd o ran eich asedau, eich incwm ac unrhyw rwymedigaethau.
 
Pa un a oes asedau neu rwymedigaethau sylweddol ai peidio, gallwn ni weithredu ar eich rhan. Gallwn gynnig ateb unigol a phwrpasol i helpu i ymdrin ag unrhyw sefyllfaoedd unigryw y gallech fod ynddynt, neu gallwn ddarparu gwasanaeth gwych er mwyn cyflawni datrysiad rhwydd. Mae gan ein harbenigwyr flynyddoedd lawer o brofiad yn y maes.
 
Y Gofynion Cyfreithiol ar gyfer Cytundeb Ymwahanu
 
Mae’n rhaid i’ch partner fod yn fodlon derbyn cyngor cyfreithiol annibynnol.
Mae’n rhaid i chi a’ch partner fod yn fodlon datgelu eich sefyllfa ariannol yn llawn i’ch gilydd.
Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch gytuno ar gynnwys y ddogfen.
Mae’n rhaid i’r cytundeb fod yn deg ac ni ddylid dwyn pwysau ar y naill ochr na’r llall i’w dderbyn.
Dylech fod yn ymwybodol na fydd Cytundeb Cyd-fyw yn gyfreithiol rwymol o reidrwydd, er bod glynu at y gofynion uchod yn cynyddu’r siawns iddo gael ei gadarnhau gan y llys yn y dyfodol.
 
Er nad yw’n beth braf i feddwl amdano, efallai y byddai weithiau’n ddefnyddiol ystyried llunio Cytundeb Cyd-fyw wrth ddechrau ar berthynas newydd er mwyn sicrhau bod eich holl asedau wedi eu diogelu pe byddai rhywbeth yn mynd o chwith yn y dyfodol.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile