- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Cyfrifoldebau Cynnal Plant
Yn JCP byddwn bob amser yn eich cynghori i fynd at gyfryngiad teuluol er mwyn ceisio dod at gytundeb ariannol cyfeillgar gyda chyn bartner, mewn unrhyw fater sy’n ymwneud â phlant. Cynghorwn yn gryf hefyd i chi gael cyngor wrth gyfreithiwr teuluol arbenigol cyn i chi gymryd unrhyw gamau.
Gall rhiant plentyn ymofyn am ddarpariaeth ariannol trwy’r Gwasanaeth Cynnal Plant. Canlyniad hwn fel arfer yw taliadau wythnosol neu fisol wedi eu cyfrifo yn ôl fformiwla sydd wedi ei seilio ar incwm y parti arall. Gallwch wneud cais trwy'r Gwasanaeth Opsiynau Cynnal Plant (www.cmoptions.org) am daliadau o dan y Gwasanaeth Cynnal Plant statudol. Byddwch yn ymwybodol bod yna ffioedd a thâl am ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynnal Plant.
Fel arfer rôl y Gwasanaeth Cynnal Plant yw penderfynu pa faint y dylai rhiant sy’n talu ei roi i brif ofalydd y plentyn, ac wedyn cymryd camau gorfodi os na wneir taliadau. Fodd bynnag, cadwa’r llysoedd yr awdurdodaeth i wneud neu newid Gorchymyn am Gynhaliaeth i blant mewn rhai sefyllfaoedd hefyd, gan gynnwys Gorchmynion am swm uwch os ydy’r rhiant sy’n talu ag incwm sy’n uwch na £156,000 y flwyddyn, neu os ydy’r llys yn ystyried y dylai’r rhiant absennol gyfrannu at ffioedd ysgol.
Dewis arall yw gwneud cais am ddarpariaeth ariannol o dan Atodiad 1 o’r Ddeddf Plant 1989. O dan y ddeddf yma gall y llys wneud Gorchmynion Ariannol er budd unrhyw blant, a gall hwn gynnwys taliadau o gostau a gafwyd mewn cysylltiad â genedigaeth plentyn.
-
- Matthew Owen
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
-
- Arwel Davies
- Cyfarwyddwr- Cynlluniau Oes
-
- Meinir Davies
- Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
-
- Betsan Powell
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Masnachol
-
- Ian Rees
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
-
- Georgia Davies
- Ariannydd Cyfreithiol
-
- Naomi Headley
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Rhian Jervis
- Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
-
- Sharon Jones
- Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Cyfraith Teulu
-
- Angela Killa
- Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol