Trefnu Ystadau

A wyddech chi nad yw oddeutu 60% o ffermwyr byth yn gwneud Ewyllys?

Ym Mhractis Gwledig JCP, mae gennym ni dîm sy’n ymroddedig i helpu ein cleientiaid amaethyddol â’u hanghenion cyfreithiol busnes a phersonol. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo â chynllunio ar gyfer olyniaeth a pharatoi ewyllysiau. Credwn fod ein profiad o’r economi wledig heb ei ail yng Nghymru.

Pam mae hi’n bwysig bod ffermwyr yn gwneud Ewyllys?

Heb ewyllys, ceir rheolau cyfreithiol (rheolau diewyllysedd) sy’n penderfynu pwy fydd yn etifeddu eich ystâd. Yn y pen draw, dyma fydd yn rheoli pwy sy’n cael eich asedau ffermio. Mae’n gamdybiaeth gyffredin i feddwl mai eich priod fydd yn etifeddu eich cyfoeth i gyd. Bydd yn derbyn cyfran ohono ond mae’n bosibl y bydd y gyfran honno yn annigonol i’w alluogi/galluogi i fyw yn gyfforddus. Ni fydd y rheolau hyn yn ystyried ychwaith bod gan sawl teulu amaethyddol blant nad ydynt yn ffermio, yn ogystal â phlant sydd yn ffermio, felly mae’n bosibl nad rhannu’r fferm yn gyfartal rhwng bob un o’ch plant yw’r dewis gorau.

A ydych chi’n credu y bydd hi’n anodd i’r plant benderfynu ymysg ei gilydd sut i redeg y fferm? Mae anghydfodau yn digwydd yn aml, a gallant fod yn gostus - nid yn unig yn ariannol, ond gallant chwalu perthnasoedd teuluol hefyd.
 
Mae gwneud Ewyllys yn ffordd hawdd o ‘roi trefn ar eich pethau’ er mwyn osgoi problemau o’r fath, a gall cael cyngor arbenigol eich helpu i strwythuro eich busnes a sicrhau ei fod yn gallu parhau yn y dyfodol.
 
Gall Treth Etifeddiant fod yn faich costus ar deuluoedd sydd mewn galar. Fodd bynnag, ar gyfer teuluoedd amaethol, mae Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes yn aml yn lleihau bil Treth Etifeddiant a allai fod yn sylweddol fel arall, i ddim. Mae’n bwysig ystyried pa un a yw eich ystâd wedi ei threfnu i elwa i’r eithaf ar y rhyddhad sydd ar gael.
 
Gallwn ni eich helpu i gymryd y cam cyntaf heddiw i roi trefn ar eich pethau.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile