Cytundebau Rhannu Ffermio

Mae Cytundebau Rhannu Ffermio yn gweithredu pan fo dau barti yn ffermio’r un tir ar y cyd. Fel arfer byddant yn cynnwys perchennog neu denant tir fferm yn cytuno ar gontract â ffermwr sy’n gweithio.

Mater i’r partïon yw manylion y contract rhannu ffermio ond yn aml mae’n cynnwys y tirfeddiannwr yn darparu tir ac adeiladau fferm, offer gosodedig a pheiriannau, y gwaith cynnal a chadw mawr ar yr adeiladau, a’i arbenigedd, tra bod y ffermwr sy’n gweithio yn darparu llafur, peiriannau maes a pheiriannau symudol, a’i arbenigedd. Rhennir costau eraill fel prynu hadau, gwrtaith a bwyd anifeiliaid.

Os oes unrhyw fenter da byw yn bodoli caiff perchnogaeth yr anifeiliaid ei rannu ar y sail bod pob parti yn berchen ar ran o bob anifail, bod pob parti yn cael ei wobrwyo â rhan o gynnyrch y fferm y mae ef neu hi yn rhydd i’w werthu fel y mae’n dymuno, ac mae pob parti yn llunio ei gyfrifon ei hun ac yn gyfrifol am ei drethi a’i ffurflenni TAW ei hun.

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile