Anghydfodau Tir a Mynediad at Dir

Mae gan ein tîm Practis Gwledig pwrpasol gyfoeth o brofiad mewn ymdrin ag anghydfodau yn ymwneud â thir a mynediad at dir, ar ran busnesau amaethyddol ac ar ran y rhai sydd â buddiannau mewn tir a materion gwledig eraill.

Mae’r profiad angenrheidiol gan ein tîm arbenigol i’ch cynorthwyo i ddatrys eich mater ,boed hwnnw yn anghydfod gyda’ch cymydog ynglŷn â ffiniau eich tir neu broblemau yn ymwneud â hawliau tramwy, 

Meddiant Gwrthgefn

Er mwyn profi meddiant gwrthgefn mae angen meddiant ffeithiol o’r tir gyda’r bwriad angenrheidiol o feddiannu’r tir a hynny heb ganiatâd y perchennog.

Mae’r cyfnod o feddiant gwrthgefn a meddiannaeth sydd ei angen i brofi meddiant gwrthgefn yn gwahaniaethu yn dibynnu ar ba un a yw’r tir wedi ei gofrestru ai peidio.

Ar gyfer tir heb ei gofrestru, mae’n 12 mlynedd, ac ar gyfer tir cofrestredig mae’n 10 mlynedd neu’n gyfnod o 12 mlynedd yn dod i ben cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ddod i rym. Gallwn gynorthwyo i wneud ceisiadau meddiant gwrthgefn i’r Gofrestrfa Tir, neu i wrthwynebu ceisiadau o’r fath gan sgwatiwr.

Cyfreithwyr Anghydfodau Ffiniau Gwledig

Gall anghydfod ynglŷn â ffiniau godi mewn sawl gwahanol ffordd a thros y stribedi lleiaf o dir.

Ffiniau cyffredinol yn unig yw ffiniau tir, ac mae’n rhaid cyfeirio at weithredoedd y tir yn y lle cyntaf, ac yna ystyried pa un a yw’r ffiniau wedi eu newid dros y blynyddoedd trwy feddiant gwrthgefn. 

Yn aml bydd y planiau sydd wedi’u hatodi i’r gweithredoedd yn dangos sefyllfa wahanol i’r hyn sydd ar y ddaear, a bydd angen i dirfeddianwyr cyfagos benderfynu pwy yw perchennog teitl clytiau penodol o dir.

Ceir rhagdybiaethau ynglŷn â ffiniau tir, sy’n cynnwys y rhagdybiaeth, pan fo eiddo wedi ei rannu gan lwybr (cyhoeddus neu breifat) neu nant, mai llinell ganol y llwybr neu’r nant yw'r ffin.

Rydym yn gweithredu ar ran sawl tirfeddiannwr sydd naill ai’n gwneud cais i gywiro teitl perchenogol ar bapur, neu sy’n amddiffyn cais o’r fath. Rydym hefyd yn ymdrin ag anghydfodau rhwng tirfeddianwyr o dan y Ddeddf Waliau Cydrannol.

Cywiro Teitl

Rydym yn gweithredu ar ran nifer o dirfeddiannwr sydd naill ai’n gwneud cais i gywiro’r teitl papur, neu sy’n amddiffyn cais o’r fath gan gymydog cyfagos.

Llechfeddiant

Mae llechfeddiant tir yn gallu bod yn broblem gyffredin i berchnogion tir amaethyddol ymdrin â hi, yn enwedig pan fo’u tir yn ffinio â phentref neu dref.

Gall llechfeddiant gan ddatblygiadau tai newydd neu ymestyn safleoedd sydd eisoes yn bodoli i dir fferm cyfagos fod yn anodd ei weld gan y bydd y symudiad yn aml yn raddol a heb fod yn amlwg ar yr olwg gyntaf.

Mae angen i dirfeddianwyr amaethyddol fod yn wyliadwrus o unrhyw newidiadau o amgylch ffiniau eu tir i sicrhau nad oes llechfeddiant wedi digwydd.

Perchnogaeth a Meddiant

Gall anghydfodau ynglŷn â pherchnogaeth a meddiant tir fod ar sawl ffurf.

Mae ein Tîm Practis Gwledig yn ymdrin ag anghydfodau o’r fath bob dydd, a byddant yn gallu eich cynghori ar eich dewisiadau a’ch hawliau o ran y tir pa un ai chi yw’r tirfeddiannwr neu’r meddiannydd.

Hawliau Tramwy Preifat

Mae llawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli bod llawer o eiddo nad oes hawl cyfreithiol i fynd ato â cherbyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Rydym ni’n darparu cyngor i dirfeddianwyr a pherchnogion tai i ddatrys anghydfodau a phan fo’n briodol rydym yn trafod y telerau talu am yr hawl i gael mynediad â cherbydau. Gallwn eich cynghori ar achosion llys, a phan fo’n briodol, ceisiadau am waharddebau.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Rydym yn cynghori ar hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau troed a llwybrau ceffylau, sy’n faterion pwysig i dirfeddianwyr ac i’r rhai sy’n gwneud defnydd o gefn gwlad.

Gallwn gynghori ar geisiadau i gofrestru hawliau tramwy cyhoeddus ar y map swyddogol, a hynny naill ai ar gyfer cefnogi neu wrthwynebu cais.

Gall anghydfod godi wrth ymarfer hawliau tramwy cyhoeddus, sy’n aml yn ymwneud â chyfyngiadau o ran mynediad i’r cyhoedd, a gallwn ymdrin ag unrhyw achosion llys dilynol.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile