Newid eich Cyfreithiwr

Mae nifer o gyfreithwyr anafiadau ar gael sydd ag enw da o ran ymdrin ag anafiadau trychinebus. Er hyn, mae rhai cyfreithwyr yn fodlon ymgymryd â’r math hwn o hawliad pan nad oes ganddynt yr wybodaeth na’r arbenigedd angenrheidiol i’w wneud yn iawn. Gall cyfreithiwr dibrofiad wneud sefyllfa wael yn waeth byth.

Nodweddion sy’n gyffredin i achosion o’r fath fel arfer:
 
• Oedi
• Methiant o ran trefnu taliadau dros dro digonol i ddiwallu anghenion ariannol
• Methiant o ran trefnu therapi priodol
• Cytuno ar swm annigonol ar gyfer yr hawliad 
 
Mae anaf trychinebus yn newid bywydau. Yn ogystal â’r poen, y straen a’r anabledd, mae’r rhestr o gostau ychwanegol sy’n deillio o ddamwain ddifrifol yn gallu bod yn ddiddiwedd.
 
Cawn ein cyfarwyddo’n rheolaidd, a hynny gan y Cyfreithiwr Swyddogol yn aml, i gamu i’r adwy  mewn achosion o anafiadau trychinebus sydd wedi eu cam-drafod gan gyfreithwyr nad oes ganddynt y profiad i allu ymdrin â’r hawliadau cymhleth hyn.
 
Os byddwch yn ein cyfarwyddo ar gyfer anaf trychinebus a gam-drafodwyd, mae’n debygol y byddwch yn gweithio gyda ni am sawl blwyddyn tra ein bod yn ceisio sicrhau'r canlyniad gorau posibl i chi. Rydym ni, fel yr ydych chithau, yn deall nad ffawdelw yw iawndal, ond ffordd o alluogi ein cleientiaid i fyw bywyd mor llawn â phosibl ar ôl eu damwain.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile