033 3320 8440

Cyfreithwyr Esgeuluster Meddygol

Er bod yn rhaid i ni ymddiried yn y rhai sy’n darparu gofal iechyd i ni, yn anffodus, gall pethau fynd o chwith. Mewn rhai achosion gall y niwed a achosir o ganlyniad i hyn gael effaith drychinebus arnom ni a’n hanwyliaid am weddill ein hoes.

Ers 1980, rydym ni wedi bod ar flaen y gad yn y maes arbenigedd hwn, ac wedi cynnal nifer o achosion cenedlaethol blaenllaw.
 
Mae gan ein tîm arbenigedd arbennig mewn hawliadau niwed gwaethaf, gan gynnwys niwed ar enedigaeth ac anaf i’r ymennydd, yn ogystal ag achosion yn ymwneud â niwed i linyn y cefn, damweiniau angheuol, trychiadau, a niwed i’r bibell gastroberfeddol.
 
Nid aelodau o’r cyhoedd yn unig sydd yn dod atom, ond cawn ein hargymell  gan gyfreithwyr eraill yn aml. Mae’r cyfreithwyr hyn yn cydnabod ein harbenigedd yn y maes ac yn awyddus i’w cleientiaid gael y cyfle gorau i lwyddo mewn amgylchiadau sy’n gallu peri cryn ofid.
 
Gennym ni mae’r tîm arbenigol mwyaf yn ne-orllewin Cymru, a chawn ein cydnabod fel un o’r Timau Esgeuluster Meddygol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae gan y tîm aelodaeth o Banel Esgeuluster Meddygol Cymdeithas y Gyfraith; Fforwm Niwed i’r Ymennydd y DU; Panel Anaf Personol Cymdeithas y Gyfraith, ac rydym ni ar restr cyfreithwyr cymeradwy Headway.
 
Gall dioddef damwain feddygol beri ofn a gofid, ond rydym yn eich annog i gysylltu â ni i gael sgwrs yn rhad ac am ddim, heb unrhyw ymrwymiad, gydag un o’n cyfreithwyr arbenigol, a fydd yn ymdrin â’ch achos gyda’r gofal a’r ystyriaeth yr ydych chi’n eu haeddu.

 

"Yr unig addewid a wnaeth Matthew oedd y byddai’n gwneud ei orau – ac fe wnaeth hynny yn rhagorol. Rwy’n fodlon iawn ar yr hyn a wnaeth."

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile

Pam defnyddio ein cyfreithwyr esgeuluster meddygol ni yn Ne Cymru?

Cydnabyddir bod Cyfreithwyr JCP yn un o gwmnïau cyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer achosion anaf personol a daw y rhan fwyaf o’n cleientiaid atom yn sgil argymhellion cyfreithwyr eraill oherwydd bod gennym ni enw rhagorol yn y maes.

Mae gan ein cyfreithwyr esgeuluster clinigol ddegawdau o brofiad, ac maen nhw’n gwybod yn union yr hyn sydd ei angen ar gyfer hawliad llwyddiannus. Gallwn gynnig y gefnogaeth bendant, hyderus a thosturiol sydd ei hangen arnoch i gyflawni’r canlyniad gorau posibl i chi a’ch anwyliaid.

Dyfarnwyd Marc Ansawdd Lexcel Cymdeithas y Cyfreithwyr i ni am ein safonau cyfreithiol uchel a chawn ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Mae gennym sawl siaradwr Cymraeg yn ogystal â chydgysylltydd y Gymraeg penodedig ac rydym yn fodlon trafod gyda chi yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae gennym swyddfeydd lleol ar draws de Cymru, dwyrain Cymru a gorllewin Cymru, yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerffili, Caerfyrddin, Y Bont-faen, Hwlffordd a Thyddewi.

Ewch ati i hawlio iawndal esgeuluster meddygol yn ne Cymru

Cysylltwch â’n cyfreithwyr hawliadau esgeuluster meddygol yn ne Cymru nawr drwy gysylltu â’ch swyddfa JCP leol neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt i ofyn i ni eich ffonio chi.