- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Cyfreithwyr Eiddo Masnachol
Beth bynnag yw maint eich busnes neu'r diwydiant yr ydych yn gweithio ynddo, mae'n debygol y byddwch yn wynebu gorfod gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch eiddo.
Yn yr un modd, os ydych yn berchen ar eiddo masnachol yr ydych yn ei brydlesu, nid yw sicrhau tenantiaid dibynadwy a fydd yn sicrhau eich bod yn gweld elw ar eich buddsoddiad yn syml bob tro. Dyna pam yr ydym ni yn JCP wedi dethol tîm o gyfreithwyr eiddo masnachol arbenigol. Pa un a ydych yn landlord, yn denant neu’n ddatblygwr, gallwch ddisgwyl y gwasanaeth gorau gan JCP. Ein haddewid i chi yw gweithredu er eich lles gorau bob amser; gan weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion wedi'u teilwra sy'n diwallu eich anghenion – yn ymarferol ac yn fasnachol.
Rydym wedi bod yn darparu cyngor eiddo masnachol arbenigol, gan gynghori cleientiaid masnachol ynglŷn â phenderfyniadau eiddo ers dros 20 mlynedd. Rydym wedi gweithredu ar ran ystod eang o gleientiaid gan gynnwys datblygwyr eiddo, cymdeithasau tai, buddsoddwyr a busnesau. Mae gennym ni hefyd arbenigedd penodol mewn eiddo a thir amaethyddol.
Rydym wedi magu ymwybyddiaeth o’r tueddiadau mewn marchnadoedd manwerthu, swyddfeydd ac eiddo diwydiannol, ac mae hyn yn ein galluogi i ddarparu cyngor sy’n gyfredol ac yn realistig. O gaffael a gwaredu eiddo busnes i adeiladu ac ailddatblygu safleoedd, mae gan ein cyfreithwyr eiddo masnachol y profiad angenrheidiol i’ch arwain yn rhwydd drwy brosesau, trafodiadau a phenderfyniadau cymhleth.
Mae ein tîm Ymgyfreitha Eiddo Masnachol hefyd yn cynorthwyo cleientiaid yn rheolaidd gyda phob math o anghydfodau eiddo masnachol, gan ddatrys hyd yn oed yr anghydfodau mwyaf cymhleth a gwerth uchel, yn aml heb fod angen achos llys.
-
- Matthew Owen
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
-
- Arwel Davies
- Cyfarwyddwr- Cynlluniau Oes
-
- Meinir Davies
- Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
-
- Betsan Powell
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Masnachol
-
- Ian Rees
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
-
- Georgia Davies
- Ariannydd Cyfreithiol
-
- Naomi Headley
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Rhian Jervis
- Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
-
- Sharon Jones
- Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Cyfraith Teulu
-
- Angela Killa
- Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol