Cyfraith Cyflogaeth

Pa un a ydych chi’n fasnachwr unigol neu’n gwmni cyhoeddus mawr, os ydych chi’n gyflogwr, mae’n hanfodol nad ydych yn esgeuluso unrhyw elfennau o’ch busnes. Mae Cyfraith Cyflogaeth yn newid yn barhaus oherwydd newidiadau cyson i ddeddfwriaeth a chyfraith achos, a gallwn ni eich cadw’n gyfredol er mwyn osgoi’r posibilrwydd i chi a’ch busnes fod mewn perygl diangen.

Byddwn yn archwilio’r posibiliadau o ddatrys anghydfodau trwy drafodaethau a chymodi, a chan fod atal problem yn well na’i datrys, byddwn hefyd yn eich cynghori ar sut i osgoi problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Er hynny, rydym yn sylweddoli bod peth gwrthdaro yn anochel, ac oherwydd hyn, byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch rhoi mewn sefyllfa gryfach i amddiffyn eich busnes pe gwnaed hawliad yn eich erbyn.

Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaeth Adnoddau Dynol a adnabyddir fel y Cynllun Diogelu Cyflogaeth. Trwy ddefnyddio’r cynllun hwn gall ein tîm weithredu fel Adran Adnoddau Dynol ar eich rhan, gan ddarparu’r lefel o gymorth sydd ei angen arnoch. Gallai hynny olygu gwasanaeth Adnoddau Dynol cyflawn, neu ddarparu cefnogaeth mentora i dîm sydd eisoes wedi ei sefydlu.

Os yw’ch busnes yn y sefyllfa anffodus o orfod ystyried diswyddo, mae ein tîm yn brofiadol mewn cynnal diwrnodau llofnodi i gynghori nifer helaeth o weithwyr mewn cyfarfodydd setliadau torfol. Bydd grwpiau o weithwyr yn dod i’r diwrnodau llofnodi hyn, a bydd pob cyflogai yn cael cyfarfod unigol ag un o’n cyfreithwyr cymwysedig i gael cyngor ar eu sefyllfa benodol hwy. Mae gennym brofiad o ddarparu’r gwasanaeth hwn yn lleol ac yn genedlaethol.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio’n agos â’n cleientiaid i ddatblygu dirnadaeth o’u gofynion arbennig hwy a deall yn drylwyr y modd y mae eu busnes yn gweithio. Ein nod yw darparu gwasanaeth personol wedi ei deilwra i ddiwallu eu gofynion unigryw hwy.
 
Rhestrir y Tîm Cyfraith Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol fel tîm haen uchaf yn rhifyn 2016 o’r Legal 500.
 
  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile