Cyfreithwyr Ansolfedd

Cydnabyddir ein tîm ansolfedd yn y cyfeiriadur Legal 500 fel un o'r darparwyr mwyaf blaenllaw ar gyfer gwasanaethau ansolfedd yng Nghymru.

Rydym yn gweithredu ar ran ymarferwyr ansolfedd a swydd-ddeiliaid yng Nghymru a Lloegr, boed hynny yn eu swyddogaeth fel Diddymwyr, Gweinyddwyr, Derbynwyr (gan gynnwys Derbynwyr Arwystl Sefydlog a Derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo), Goruchwylwyr neu Ymddiriedolwyr ar gyfer Methdaliad.
 
Hefyd, mae ein harbenigedd helaeth yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o gyngor ar ansolfedd i fusnesau, gan gynnwys ymdrin â chwsmeriaid sy’n fethdalwyr a/neu eu swydd-ddeiliaid, a rhoi cyngor o dan amgylchiadau pryd y  gallai’r cleientiaid busnes eu hunain fod yn wynebu proses ansolfedd, megis penodi gweinyddwyr.
 
Rydym hefyd yn darparu cyngor i unigolion yn rheolaidd ar bob math o faterion ansolfedd, gan gynnwys cyflwyno neu ymateb i ddeisebau methdaliad, a hawliadau a gaiff eu dwyn gan swydd-ddeiliaid yn ymwneud â chartref y teulu.
 
Mae ein harbenigedd yn y maes hwn yn cynnwys:
 
  • Ansolfedd Corfforaethol/Partneriaeth
  • Ansolfedd Personol
  • Deisebau diffygdalu
  • Hawliadau tanbrisio/ffafrio
  • Hawliadau camwaith
  • Adfer asedau
  • Cymorth Ymgyfreitha ar gyfer Swydd-ddeiliaid Ansolfedd
  • Achub Cwmnïau
  • Anghymwyso Cyfarwyddwyr/Achosion Gorchymyn Cyfyngu Methdaliad
  • Rhannu cwmnïau
  • Atgyfansoddi ac ad-drefnu solfent
  • Prynu cyfranddaliadau yn ôl
  • Gweithredu ar ran swydd-ddeiliaid mewn cysylltiad â gwerthu eiddo ac asedau (gan gynnwys pecynnau parod)
  • Gweithredu ar ran prynwyr oddi wrth weinyddwyr/diddymwyr
  • Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)
  • Cyngor ar ddileu swyddi
  • Gweithredu ar ran Derbynwyr Arwystl Sefydlog a Derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo, gan gynnwys dilysu penodiadau a materion trafodiadau ac ymgyfreitha.

Fel arbenigwyr, rydym yn deall mai ychydig iawn o gyllid sydd gan swyddogion yn aml i’w ddefnyddio ar gyfer costau cyfreithiol. O ganlyniad i hyn, rydym yn fodlon gweithredu ar sail ffi amodol mewn achosion priodol ac rydym hefyd yn cynghori ar gyllid ymgyfreitha pan fo angen hynny

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile