- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Cyfraith Cyflogaeth ar gyfer Cyflogeion
Os ydych chi’n gyflogai mae gennych hawliau pendant o dan y gyfraith. Os ydych chi’n credu nad yw eich cyflogwr yn parchu’r hawliau hynny, gallwn ni eich helpu i gymryd camau i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg ac i sicrhau iawndal pan fo hynny’n briodol.
Mae ein cyfreithwyr cyfraith cyflogaeth yn arbenigwyr o ran trafod a defnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfod, ac felly gallwn fel arfer gyflawni canlyniad cadarnhaol heb yr angen am dribiwnlys cyflogaeth. Gall hyn arbed amser, arian a straen diangen i chi, yn ogystal â sicrhau cyn lleied o wrthdaro â phosibl.
Er hynny, pe byddai angen tribiwnlys cyflogaeth, mae gennym y profiad i’ch cynrychioli chi yn y ffordd orau bosibl, gan eich helpu i sicrhau’r canlyniad gorau sydd ar gael i chi.
Yn ogystal â helpu i ddatrys anghydfodau cyflogaeth, gallwn hefyd eich cynghori ynghylch amrywiaeth o faterion cyflogaeth annadleuol, gan gynnwys adolygu contractau cyflogaeth a chytundebau gwasanaeth cyfarwyddwyr, a thrafod pecynnau ymadael.
Mae gan ein cyfreithwyr cyflogaeth ddegawdau o brofiad, felly beth bynnag yw’r problemau yr ydych yn eu hwynebu, gallwn roi’r cyngor arbenigol sydd ei angen arnoch i gyflawni canlyniad cadarnhaol.
I siarad ag un o’n cyfreithwyr cyflogaeth arbenigol heddiw, cysylltwch â’ch swyddfa JCP leol https://www.jcpsolicitors.cymru/site/contact/ neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y dde i gael ymateb cyflym.