- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Hawliadau Iawndal Orthopedig
Os ydych chi wedi dioddef anaf orthopedig o ganlyniad i driniaeth esgeulus efallai bod gennych chi hawl i gael iawndal. I lawer o bobl, ni fydd iawndal byth yn eu digolledu'n llwyr am y poen a'r canlyniadau sy'n newid bywyd y maen nhw wedi eu dioddef, ond gall iawndal wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch bywyd o ddydd i ddydd, yn enwedig os ydych chi wedi dioddef anaf sy'n newid bywyd o ganlyniad i driniaeth esgeulus.
Er enghraifft, gellir dyfarnu iawndal i ariannu therapi a chymorth hanfodol, triniaeth breifat, cymhorthion ac offer, yn ogystal â chostau addasu sy'n ofynnol i wneud eich cartref yn fwy cyfforddus a/neu hygyrch yn dilyn eich anaf, a gall pob un o’r rhain wella ansawdd eich bywyd yn sylweddol.
Beth yw anaf orthopedig?
Anaf cyhyrysgerbydol yw anaf orthopedig ac mae’n gallu cynnwys niwed i esgyrn, cymalau, gewynnau, tendonau a nerfau.
Pryd y gallwch chi hawlio iawndal ar gyfer anaf orthopedig a achoswyd gan driniaeth esgeulus?
Er mwyn cyflwyno hawliad esgeulustod orthopedig llwyddiannus mae angen i chi sefydlu eich bod chi wedi cael gofal neu driniaeth nad oedd yn cyrraedd safon resymol a’ch bod chi wedi dioddef niwed/anaf o ganlyniad i hynny.
Mae llawer o wahanol fathau o hawliadau esgeulustod orthopedig, a gallant gynnwys;
- Methu â gwneud diagnosis, rheoli a/neu drin torasgwrn
- Oedi cyn gwneud diagnosis
- Camddiagnosis
- Camgymeriadau llawfeddygol
- Niwed i nerfau
- Heintiau yn dilyn llawdriniaeth
I drafod anaf orthopedig yn fwy manwl gydag un o'n cyfreithwyr anafiadau arbenigol, cysylltwch â ni yma neu galwch 03333 209244 neu cysylltwch ag aelodau ein tîm isod.