Hawliadau Esgeuluster Meddygol Angheuol

Mae colli rhywun agos yn ddigwyddiad ysgytiol ac ingol; ond beth sy’n digwydd pan fo’r golled drasig honno o ganlyniad i fethiant mewn gofal y gellid bod wedi ei osgoi?

Yng nghanol y galar o ymdopi â phrofedigaeth, weithiau mae’r rhai sydd wedi’u gadael ar ôl yn wynebu cwestiynau na chafwyd ateb iddynt ynghylch y gofal meddygol a gafodd eu hanwyliaid, a pha un a oedd hynny mewn rhyw ffordd yn rhannol gyfrifol am eu marwolaeth.

Yn ddealladwy, mae hon yn sefyllfa hynod ofidus i fod ynddi, ac yn aml mae teuluoedd yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu dygymod â’r hyn sydd wedi digwydd heb gael atebion i’r cwestiynau oedd ganddynt. Yn yr amgylchiadau hynny, efallai y byddai’r teulu yn dymuno cyfarwyddo cyfreithiwr i ymchwilio i hawliad esgeuluster meddygol posibl.

Cysylltwch â ni i gael ymgynghoriad rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad ynghylch dechrau hawliad esgeuluster meddygol angheuol yn ne Cymru neu’n ehangach.

Beth fydd cyfreithiwr yn ei wneud?

Wrth geisio hawliad posibl, bydd cyfreithiwr yn ymchwilio i’r driniaeth a gafodd yr ymadawedig, ac ystyried pa un a wnaeth y driniaeth achosi neu gyfrannu at ei farwolaeth. Efallai y bu oedi y gellid bod wedi ei osgoi o ran cael diagnosis o salwch y gellid bod wedi ei drin heblaw am hynny; neu na chafodd llawdriniaeth neu driniaeth arall ei chyflawni i’r safon ddigonol gan arwain at gymhlethdodau ac yna at farwolaeth drist yr unigolyn; neu na chafodd y driniaeth y dylid fod wedi ei darparu i’r unigolyn ei chyflawni.

Beth yw canlyniad posibl hawliad esgeuluster meddygol angheuol?

Yn anffodus, ni wnaiff dim byd ddod â’r anwyliaid yn ôl. Y cwbl a wnaiff hawliad esgeuluster meddygol llwyddiannus yw sicrhau setliad ariannol fel canlyniad terfynol.

Efallai mai’r ymadawedig oedd prif enillydd cyflog y teulu. Efallai mai ef/hi oedd yn gyfrifol am ofal plant neu am gynnal y cartref, a gallai hyn olygu, yn dilyn marwolaeth, fod poeni ynghylch cael dau ben llinyn ynghyd yn ychwanegu at feichiau sylweddol sydd ar y rhai sydd wedi eu gadael ar ôl. Gall setliad ariannol olygu y gellir ymdrin â phryderon ariannol heb iddyn nhw ychwanegu at y baich wrth i’r teulu geisio dygymod â’r bwlch a adawyd yn sgil y farwolaeth.

Wrth ystyried setliad ariannol, bydd cyfreithiwr yn ystyried a fu colled o ran dibyniaeth ariannol a hefyd pa un a fu colled o ran gwasanaethau (er enghraifft os oedd yr ymadawedig yn gyfrifol am ofal plant neu efallai’n gofalu am berthynas) yn ogystal â hawliad am y boen a’r dioddefaint i’r ymadawedig cyn ei farwolaeth, costau angladd a ‘dyfarndal profedigaeth’. Pennir y dyfarndal hwn gan y gyfraith ar gyfer priod sy’n fyw neu rieni sy’n fyw mewn achos o farwolaeth plentyn dan 18.

Pam defnyddio ein cyfreithwyr esgeuluster meddygol angheuol ni yn Ne Cymru?

Rydym ni’n deall pa mor anodd y gall y mathau hyn o hawliadau fod mewn cyfnod sydd eisoes yn peri pryder, felly ein nod yw rhoi’r arweiniad clir a thosturiol sydd ei angen arnoch er mwyn cyflawni setliad teg yn y modd mwyaf syml gyda chyn lleied o straen â phosibl.

Mae gennym ddegawdau o brofiad ym maes hawliadau esgeuluster meddygol angheuol, felly gallwn gynnig yr arbenigedd sydd ei angen i sicrhau’r canlyniad gorau posibl hyd yn oed ar gyfer yr hawliadau mwyaf cymhleth a dadleuol. Oherwydd ein hanes cryf o lwyddiant cydnabyddir bod Cyfreithwyr JCP yn un o’r prif gwmnïau anaf personol yn ne Cymru.

Mae ein tîm wedi ei achredu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer Esgeuluster Clinigol, sy’n adlewyrchu safonau uchel ein harbenigedd cyfreithiol a’n gwasanaethau yn y maes arbenigol hwn. Hefyd dyfarnwyd Marc Ansawdd Lexcel Cymdeithas y Cyfreithwyr i ni am y modd eithriadol yr ydym yn rheoli ein practis ac yn gofalu am ein cleientiaid.

Mae gennym sawl siaradwr Cymraeg yn ein tîm, ac rydym yn fodlon gweithio gyda chi yn Gymraeg neu yn Saesneg i sicrhau y gallwn ateb eich cwestiynau yn glir bob amser ac egluro popeth y mae angen i chi ei wybod mewn modd effeithiol yn yr iaith o’ch dewis.

Mae gennym swyddfeydd lleol ar draws de Cymru, dwyrain Cymru a gorllewin Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe, Caerffili, Caerfyrddin, Y Bont-faen, Hwlffordd a Thyddewi.

Ewch ati i hawlio iawndal esgeuluster meddygol angheuol yn ne Cymru

Cysylltwch â’n cyfreithwyr hawliadau esgeuluster meddygol angheuol yn ne Cymru nawr drwy gysylltu â’ch swyddfa JCP leol.