- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Telerau & Amodau, ac Ymwadiad Cyfreithiol
Gweler isod ein telerau ac amodau, a’n hymwadiad cyfreithiol. Onid oes gennych chi yr un o’r rhain ar gyfer eich gwefan busnes chi? Byddem ni’n falch iawn o helpu. Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Busnes heddiw.
1. Cyflwyniad
2. Y modd y mae’r Wefan ar gael
Byddwn yn ceisio sicrhau bod y Wefan ar gael drwy’r dydd a’r nos heb unrhyw doriadau. Er hyn, rydym yn cadw’r hawl i ddiffodd y Wefan ar unrhyw adeg neu i gyfyngu mynediad i’r Wefan gyfan neu rannau ohoni yn ddirybudd. Gwasanaeth gwybodaeth gyffredinol yw’r Wefan. Gwnawn ein gorau i sicrhau nad yw’n gamarweiniol ond ni allwn gadarnhau bod y wybodaeth sydd ar gael ar neu drwy’r Wefan yn gywir, heb fod yn gamarweiniol, yn gyflawn nac yn gyfredol.
3. Gwneud taliad ar-lein
3.1 Talu Anfoneb neu Daliad ar gyfrif o'n Costau
3.2 Dim ond mewn punnoedd sterling y gellid derbyn taliadau.
3.3 Talu ffioedd trydydd parti
Nid ydym yn derbyn taliadau tuag at ffioedd trydydd parti megis ffioedd chwiliadau, ffioedd bargyfreithwyr neu flaendal morgais. Os byddwch yn camddefnyddio ein system yn y modd hwn bydd eich taliad yn cael ei ad-dalu, a gallai hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith ac achosi oedi sylweddol i’ch achos. Ffoniwch ein Tîm Cyfrifon ar 01792 529606 i gael rhagor o wybodaeth.
4. Sut yr ydym yn gwarchod eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio technoleg Secure Socket Layer (SSL) sy’n cydymffurfio â safonau’r diwydiant ar gyfer taliadau ar y we. Golyga hyn bod eich holl fanylion personol a manylion eich cardiau wedi eu diogelu drwy ddefnyddio amgryptiad 128 bit pan fo’ch manylion yn cael eu trosglwyddo ar y we. Diogelir ein Gwefan gan Verisign. Cliciwch ar logo Verisign ar y dde i wirio dilysrwydd ein tystysgrif diogelwch.
4.1 Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwefan ddiogel
Pan fo’ch porwr yn arddangos tudalen i dalu ar-lein, byddwch yn sylwi bod yr URL ar ben ffenestr y porwr yn dechrau gyda https yn lle http. Byddwch hefyd yn gweld bod icon clo clap ar y dde ar waelod ffenestr eich porwr. Rhowch eich llygoden dros y clo clap am ennyd a dylech weld cryfder yr amgryptiad. Dylai fod o leiaf yn “SSL Secured 128 bit”.
4.2 Os ydych yn rhannu eich Cyfrifiadur Personol neu yn defnyddio adnodd mewn man cyhoeddus.
Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn eich gweld yn mewngofnodi eich manylion a chaewch ffenestr y porwr ac, os yw’n berthnasol, allgofnodwch pan fyddwch wedi gorffen.
5. Defnyddio’r Wefan
Cynlluniwyd y Wefan ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol chi, ac ni chewch ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ni. Ac eithrio’r hyn a ganiateir o dan y gyfraith berthnasol, ni chewch ddefnyddio, copïo, cyfieithu, cyhoeddi, trwyddedu na gwerthu'r Wefan nac ychwaith unrhyw ran o’r cynnwys na’r wybodaeth ar y Wefan na’r adeiledd, natur na chod y rhaglen heb ein caniatâd. Os ydych yn dymuno gwneud cais am ganiatâd, cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk
6. Eich cyfraniadau
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig ac y bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu sy’n gysylltiedig â’r Wefan hon, neu sy’n ffurfio rhan ohoni, yn wir ac yn gywir hyd y gwyddoch, ac na fydd yn torri hawlfraint na nod masnach, nac unrhyw hawliau o ran preifatrwydd, cyhoeddusrwydd na phersonoliaeth, nac unrhyw hawl arall, boed hwnnw wedi ei gofrestru ai peidio, o unrhyw fath arall neu unrhyw berson arall, ac na fydd yn anweddus nac yn enllibus, yn gableddus nac yn ddifenwol, ac rydych yn cytuno i’n hindemnio yn erbyn pob hawliad, achos llys, iawndal, rhwymedigaethau a chostau gan gynnwys costau cyfreithiol sy’n deillio o ganlyniad i dorri’r amod hwn. Ni allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â gwybodaeth na chyfraniad a wneir gan unrhyw ddefnyddiwr arall a dylech fod yn wyliadwrus cyn gweithredu na ddibynnu fel arall ar unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chael drwy’r Wefan.
7. Dolennau
Mae’r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Heb gyfyngu ar yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn mannau eraill, nid ydym yn cynrychioli nac yn gwarantu unrhyw beth ynglŷn â’r gwefannau hynny na’u cynnwys, nac y bydd y dolenni yn gweithio. Os ydych yn dymuno cael dolen i’r Wefan cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk
8. Diogelu Data
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost cywir a dilys i ni, yn ogystal â manylion cyswllt eraill, a’ch bod yn ein hysbysu am unrhyw newidiadau iddynt, er na allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â defnyddwyr eraill y gallech gyfarfod â hwy wrth ddefnyddio’r Wefan. Rydym yn cydymffurfio gyda phob cyfraith berthnasol ar gyfer Gwarchod Data yn y DU. I gael disgrifiad o sut yr ydym yn defnyddio eich data personol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
9. Eiddo Deallusol
Mae’r Wefan hon, ei natur a’i strwythur, a’r cynnwys a’r wybodaeth sydd ar y Wefan, wedi eu diogelu drwy Hawlfraint a hawliau eraill sy’n ymwneud ag Eiddo Deallusol, ac ni chaniateir i chi eu defnyddio ac eithrio mewn modd y darperir ar ei gyfer yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn. Mae awduron y dogfennau ar y Wefan hon yn mynnu eu hawliau moesol.
10. Ein Hatebolrwydd
11. Y Print Mân
Gall y naill neu’r llall ohonom derfynu’r Cytundeb Defnyddwyr hwn ar unrhyw bryd. Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau na ddirprwyo unrhyw un o’ch rhwymedigaethau o dan y Cytundeb Defnyddwyr hwn heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw. Os methwn ni â gorfodi unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn ni fydd y methiant hwnnw yn ein hatal rhag gorfodi naill ai’r ddarpariaeth honno (neu ddarpariaeth debyg), ar adeg ddiweddarach. Nid oes unrhyw beth yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn yn rhoi unrhyw fudd i unrhyw drydydd barti, na’r hawl i orfodi unrhyw amod o’r Cytundeb Defnyddwyr. Rheolir y Cytundeb Defnyddwyr hwn gan Gyfraith Lloegr, ac mae unrhyw anghydfod sy’n gysylltiedig â’r Cytundeb hwn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr. Nid oes unrhyw beth yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn sy’n effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
12. Cwynion
Os ydych chi’n credu bod eich hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill wedi eu torri gan y Wefan, neu os yr ydych chi’n anfodlon â’r Wefan neu unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk yn y lle cyntaf neu ffoniwch ni ar 01792 773 773.