- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Polisi Gofal am Gleientiaid
Mae JCP yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol rhagorol ynghyd â gofal o’r safon broffesiynol uchaf i’n cleientiaid. Rydym ni’n monitro ein perfformiad yn barhaus ac yn cynnal adolygiadau rheolaidd o’n systemau a’n gweithdrefnau er mwyn mireinio a gwella safon ein gofal am gleientiaid.
Er ein bod yn cydnabod mai rhagoriaeth mewn gwaith cyfreithiol yw ein swyddogaeth graidd, rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i hynny gael ei gyfuno a’i gefnogi gan y safon uchaf o ymddygiad proffesiynol a gofal am gleientiaid.
I gyflawni hynny, byddwn yn:
- Cytuno ar y lefel o wasanaeth sydd ei angen arnoch gyda chi ymlaen llaw
- Cynrychioli eich buddiannau
- Rhoi cyngor cyfreithiol clir i chi y gallwch ei ddeall
- Sicrhau eich bod yn deall yn union yr hyn yr ydych yn ymgymryd ag ef (gan gynnwys y risg o ennill neu golli) a’r costau posibl
- Cadw eich busnes yn gyfrinachol
- Sicrhau bod gennym yr adnoddau a’r arbenigedd i ymdrin â’ch achos
- Rhoi gwybod i chi am ddatblygiad eich achos a dyddiadau pwysig i’w cofio ynglŷn â’ch mater
- Rhoi’r wybodaeth gywiraf bosibl am gostau ar bob cam o’r achos.
- Dim ond codi’r tâl a gytunwyd gyda chi yn ysgrifenedig ymlaen llaw.
- Darparu ymateb prydlon i’ch holl alwadau ffôn, negeseuon e-bost a gohebiaeth
- Ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn brydlon
- Ateb eich llythyrau neu eich negeseuon e-bost o fewn tri diwrnod gwaith