- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Lansio Gwefan Gymraeg
Mae Cyfreithwyr JCP yn ymfalchïo yn y Gymraeg. Credwn ei fod yn creu arwydd o hyder.
Dywedodd y Cyfarwyddwr a Chydlynydd y Gymraeg yng Nghyfreithwyr JCP, Meinir Davies: “Mae 20 y cant o’n cydweithwyr yma yng Nghyfreithwyr JCP yn siarad Cymraeg ac mae cyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod ar gael i’n cleientiaid, pan eu bod yn dewis gwneud hynny, ers blynyddoedd.
Bu’n ganolog i ethos JCP erioed ein bod yn rhan annatod o’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r gallu i gyfathrebu â’n cleientiaid yn yr iaith y mae nhw fwyaf cartrefol ynddi yn rhan allweddol o’r ymagwedd honno.”
Dyma uchafbwyntiau ein gwasanaethau Cymraeg i’n cleientiaid:
- Siaradwch yn Gymraeg gyda staff lle gwelwch nhw’n gwisgo’r bathodyn
- Croeso i chi ysgrifennu atom yn y Gymraeg neu’r Saesneg
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i drafod eich achos yn y Gymraeg
- Mae ein gwefan yn ddwyieithog
- Bydd ein taflenni a nwyddau marchnata mwyaf poblogaidd ar gael yn y Gymraeg
- Mae recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg yn cael ei gyfri’n fantais
- Byddwn yn cefnogi digwyddiadau lleol sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg
- Byddwn yn cynnal brecwast busnes yn flynyddol i’n cleientiaid masnachol Cymreig er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn busnes