- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Cynllun Ansawdd Trawsgludo
Rydym ni wedi ein hachredu o dan y Cynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS) sy’n darparu safon ansawdd a gydnabyddir ar gyfer trawsgludo tai preswyl.
Mae’n rhaidgwmnïau gydymffurfio â’r Protocol newydd yn ogystal â’r Siarter Gofal Cwsmer, hyfforddiant gorfodol a gweithdrefnau eraill sy’n gweithredu o dan y cynllun.
Mae cyflawni aelodaeth yn sefydlu lefel ychwanegol o hygrededd gyda’n rhanddeiliaid (rheoleiddwyr, benthycwyr, yswirwyr, a defnyddwyr) yn seiliedig ar:
- Uniondeb yr Uwch Swyddog Cyfrifol a staff trawsgludo allweddol eraill
- Ymlyniad y cwmni at safonau rheoli arfer da
- Ymlyniad y cwmni at weithdrefnau trawsgludo darbodus ac effeithlon drwy brotocol y cynllun
- Mae’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo yn rhoi tawelwch meddwl llwyr i chi wrth brynu tŷ
Dyfynnwyd llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Linda Lee fel a ganlyn: “.... Bydd practisau cyfreithiol sydd wedi eu hachredu gan CQS yn gwbl amlwg i unrhyw un sy’n dymuno prynu cartref . Ar gyfer yr hyn a fydd y pryniant drytaf yn oes unrhyw un, mae’n hanfodol eu bod yn gallu dibynnu ar ansawdd darpariaeth gwasanaeth CQS.”
Siarter Cleient y Cynllun Ansawdd Trawsgludo
Mae prynu neu werthu tŷ yn un o’r trafodiadau mwyaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei wneud yn ystod ein hoes. Rydym yn awyddus i wneud hyn mor rhwydd â phosibl i chi a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo yn hwylus. Mae’r Siarter hon yn dweud wrthych yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni.
Cynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr (CQS)
Sefydlwyd cynllun ansawdd newydd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymwneud â phrynu a gwerthu eiddo.
Rydym ni’n aelod o CQS, sy’n golygu ein bod yn bodloni’r safonau uchel y mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn eu gosod er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth trawsgludo proffesiynol o ansawdd da i’n cleientiaid.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
- Pan eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich pryniant neu werthiant byddwn yn esbonio’r camau yn y broses yn glir a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich cyfreithiwr
- Byddwn yn dweud wrthych beth fydd y gost
- Byddwn yn eich hysbysu am y cynnydd o ran eich pryniant neu werthiant
- Byddwn yn gweithio yn unol â safonau ansawdd CQS Cymdeithas y Cyfreithwyr
Byddwn:
- Yn eich trin yn deg
- Yn ymdrin â chi mewn modd cwrtais a phroffesiynol
- Yn ymateb yn brydlon i’ch ymholiadau
- Yn rhoi gwybod i chi am unrhyw broblemau cyn gynted â’n bod ni’n ymwybodol ohonynt
- Yn gofyn am eich sylwadau ar ein gwasanaeth
Os ydych chi’n dymuno gwneud cwyn am gyfreithiwr, gofynnwch am fanylion gweithdrefn gwynion ein cwmni.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon eraill am y cwmni fel aelod o’r CQS, cysylltwch â thîm Cymdeithas y Cyfreithwyr: cpq@lawsociety.org.uk
Os ydych chi’n dymuno siarad ag un o’n cyfreithwyr trawsgludo arbenigol yn Sir Benfro, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Pontypridd, Y Bont-faen, Caerffili neu Gaerdydd, cysylltwch â ni.