- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Amdanom Ni
Mae ein cleientiaid yn cynnwys busnesau ac unigolion ym mhob rhan o Gymru a Lloegr, gan gynnwys rhai o brif sefydliadau benthyca y stryd fawr, sefydliadau amaethyddol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â chwmnïau preifat adnabyddus. Mae gennym berthynas agos a hirsefydlog â’n cleientiaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae darpariaeth ein gwasanaethau yn canolbwyntio ar feysydd arbenigol, er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth arbenigol a rhagorol ledled de a gorllewin Cymru a thu hwnt.
- Sefydlwyd JCP ym mis Tachwedd 1990.
- Mae gennym ni 20 o gyfarwyddwyr ac oddeutu 179 o aelodau staff ar hyn o bryd.
- Mae ein Prif Swyddfa yn Abertawe, ond mae gennym swyddfeydd eraill yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Y Bont-faen, Hwlffordd, Abergwaun, Pontypridd a Thyddewi.
- Ni yw’r cwmni cyfreithiol mwyaf yng Nghymru sydd â’i swyddfeydd i gyd yng Nghymru.
- Gan ei fod yn fusnes blaengar, daeth y cwmni yn Strwythur Busnes Amgen (ABS) ym mis Gorffennaf 2012.
- Uno â VJG Johns yn Abergwaun yn 2011
- Uno â Bissmire Fudge & Co yn Hwlffordd yn 2012
- Uno â Peter Cross, hefyd yn Abergwaun, yn 2013
- Uno â Pritchard Edwards yng Nghaerfyrddin yn 2014.
- Uno â Glamorgan Law yng Nghaerffili, Caerdydd, Y Bont-faen a Phontypridd yn 2017
- Ar 6 Ebrill 2015, daeth Cyfreithwyr JCP yn gorff corfforedig sef Cyfreithwyr JCP Cyfyngedig